Cyhoeddir mai Tim Rowlands yw pennaeth newydd y Gynghrair Efengylaidd yng Nghymru
Evangelical Alliance Wales
Mae’r Gynghrair Efengylaidd yn llawn gwefr o gyhoeddi y bydd Tim Rowlands yn ymuno â thîm y staff fel pennaeth y Gynghrair Efengylaidd yng Nghymru o’r 1af o Ebrill, i gynorthwyo’r eglwys yng Nghymru yn ei chenhadaeth leol ac i fynd â’i llais i’r gymdeithas ehangach ac i’r llywodraeth.
Cymeradwyodd Gavin Calver, Prif Swyddog Gweithredol y Gynghrair Efengylaidd, y penodiad gan ddweud: ‘Rwyf wrth fy modd bod Tim am ymuno â ni i wasanaethu a chynorthwyo’r eglwys yng Nghymru. Mae’n arweinydd eglwys profiadol sy’n gwybod drosto’i hun sut y gall yr eglwys ymgysylltu’n wleidyddol ac yn ddiwylliannol yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at wasanaethu gydag ef ac at weld Duw yn symud yn nerthol ledled cenedl Cymru.’